Mae’r Rhwydwaith Ymateb Busnes Cenedlaethol yn nodi anghenion cenedlaethol a lleol gan grwpiau cymunedol, ysgolion, awdurdodau lleol, cyrff cydnerthedd lleol, elusennau a chynghreiriau. Yna, mae’r rhwydwaith yn cysylltu adnoddau busnes i ddiwallu’r anghenion canlynol:
- Bwyd
- Technoleg
- Gofal cymdeithasol
- Busnesau bach
Mae’r adnoddau busnes a fydd yn cyfateb i’r anghenion cymunedol yn cynnwys:
- Cymorth proffesiynol
- Adnoddau benthyg/rhoi
- Logisteg
Gall sefydliadau cymunedol sydd angen cymorth gofnodi eu ceisiadau:
- Drwy ffonio’r llinell gymorth 24 awr ar 0141 285 3821
- E-bostio localresiliencesupport@bitc.org.uk
- Postio ar y bwrdd anghenion a chynigion ar-lein: www.businessresponsecovid.org.uk
Gall cwmnïau sydd am gynnig cymorth gysylltu i weld ble mae angen eu cymorth drwy e-bostio: businessresponse@bitc.org.uk