Bydd y Bil Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol yn rhoi diwygiadau i’r fframwaith ansolfedd a llywodraethu corfforaethol ar waith, ynghyd â mesurau dros dro i gefnogi masnachu parhaus drwy’r argyfwng COVID-19.
Bydd y Bil yn helpu cwmnïau drwy:
- roi gofod anadlu iddyn nhw yng nghyfnod ansicr coronafeirws
- sicrhau eu bod yn cael eu diogelu dros dro rhag gweithredu gan gredydwyr yn ystod yr argyfwng coronafeirws
- ysgafnhau’r pwysau ar gyfarwyddwyr er mwyn iddyn nhw allu canolbwyntio ar gadw eu busnesau i fynd
Ewch i wefan GOV.UK am ragor o wybodaeth.