Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn agor ei Gronfa Adferiad Diwylliannol Cymru ar gyfer ceisiadau. Fel rhan o gronfa argyfwng £53 miliwn Llywodraeth Cymru, bydd y Cyngor yn buddsoddi £27.5 miliwn i helpu sefydliadau i oroesi wrth iddynt wynebu pwysau ariannol y coronafeirws.
Bydd y Cyngor yn rheoli’r arian ar gyfer:
- theatrau, canolfannau celfyddydol a neuaddau cyngerdd
- orielau
- sefydliadau sy'n cynhyrchu ac yn teithio eu gwaith celfyddydol
- sefydliadau sy'n cynnig gwaith celfyddydol cyfranogol
Mae'r gronfa wedi ei rhannu i ddwy ran:
- Coronafeirws: Cymorth Refeniw i Sefydliadau Celfyddydol
- Coronafeirws: Cymorth Cyfalaf i Sefydliadau Celfyddydol
Mae cronfa dan reolaeth y Cyngor yn cau 5pm ddydd Mercher 9 Medi 2020.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Cyngor Celfyddydau Cymru.
Bydd Llywodraeth Cymru yn rheoli’r arian ar gyfer:
- lleoliadau cerddorol ar lawr gwlad
- safleoedd treftadaeth
- amgueddfeydd, llyfrgelloedd a gwasanaethau archifau lleol
- digwyddiadau a gwyliau
- sinemâu annibynnol
- gweithwyr creadigol llawrydd unigol
Bydd manylion y cronfeydd a reolir gan Lywodraeth Cymru ar gael yn fuan, a bydd gwiriwr cymhwyster ar-lein ar gael a fydd yn caniatáu i gwmnïau baratoi ceisiadau cyn bod y gronfa yn agor.