BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Arloesi Iechyd Cyn-filwyr

Mae cronfa newydd gwerth £5 miliwn wedi agor heddiw ar gyfer prosiectau a fydd yn darparu triniaethau gofal iechyd arloesol i gyn-filwyr.

Bydd y cyllid yn cefnogi sefydliadau sy'n ceisio ymchwilio i a threialu technoleg arloesol a allai helpu cyn-filwyr ag anghenion gofal iechyd cymhleth.

Weithiau, bydd cyn-filwyr yn wynebu problemau iechyd unigryw o ganlyniad i'w gwasanaeth milwrol a bydd y Gronfa Arloesi Iechyd Cyn-filwyr yn sbarduno arloesedd mewn technegau a fydd yn y pen draw yn helpu trin cyn-aelodau o'r lluoedd arfog sydd wedi cael eu hanafu wrth wasanaethu'r wlad.

Mae'r gronfa bellach ar agor ar gyfer nifer o feysydd, gan gynnwys:

  • Digidol, data a thechnoleg, gan gynnwys drwy ddeallusrwydd artiffisial, realiti rhithwir a defnyddio data i ragweld canlyniadau iechyd hirdymor
  • Gwelliannau mewn technegau llawfeddygol arloesol, adsefydlu ar gyfer anafiadau yn sgil ffrwydron a thechnolegau ymyrryd ar gyfer anaf trawmatig i'r ymennydd
  • Treialu ymyriadau a thriniaethau ar gyfer effaith poen, colli clyw a nam ar y golwg
  • Mentrau i helpu amlygu a darparu atebion i wahaniaethau mewn iechyd a gofal iechyd cyn-filwyr benywaidd

Mae'r broses ymgeisio am grant wedi cael ei chefnogi gan y Cyflymydd Amddiffyn a Diogelwch (DASA). Mae'r broses ymgeisio ar agor tan 31 Awst 2022.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i New £5 million innovation fund for cutting edge veterans’ healthcare - GOV.UK (www.gov.uk)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.