Mae’r Gronfa Benthyciadau Gwydnwch ac Adferiad yn gronfa ar gyfer mentrau cymdeithasol ac elusennau sy’n gwella bywydau pobl ledled y DU sy’n profi tarfu ar eu model busnes arferol o ganlyniad i COVID-19.
Fe’i sefydlwyd i wneud cynllun presennol Llywodraeth y DU, Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws (CBILS) yn fwy hygyrch i elusennau a mentrau cymdeithasol.
Mae’r Gronfa Benthyciadau Gwydnwch ac Adferiad wedi’i hanelu at y sefydliadau hynny sy’n wynebu problem yn sgil unrhyw ohirio neu darfu disgwyliedig i’w hincwm a’u gweithgarwch. Gall benthyciad helpu yn hyn o beth, gan ddarparu cyfalaf gweithio nes y gall busnes arferol ddechrau unwaith eto.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Social Investment Business.