BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Cefnogi Syniadau Gwych Cymru

Gall sefydliadau cymunedol ac elusennau cofrestredig yng Nghymru wneud cais nawr am gyfran o £1.5 miliwn.

Mae’r cyllid ar gael drwy Gronfa Cefnogi Syniadau Gwych - Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae’n rhaid i brosiectau fod yn werth o leiaf £10,001 ac nid oes  unrhyw uchafswm grant wedi ei nodi.

Mae grantiau gwobrwyo Cefnogi Syniadau Gwych yn cefnogi syniadau arloesol a phwysig yn strategol sy’n annog newid cymdeithasol cadarnhaol yng Nghymru.

Croesewir ceisiadau sy’n cyflawni’r blaenoriaethau isod:

  • cefnogi sefydliadau i addasu neu arallgyfeirio i ymateb i heriau newydd a rhai yn y dyfodol
  • cefnogi cymunedau sy’n cael eu heffeithio’n niweidiol gan COVID-19
  • cefnogi cymunedau a sefydliadau i fod yn fwy gwydn er mwyn eu helpu i ymateb yn well i achosion o argyfwng yn y dyfodol.

Nid oes dyddiad cau ar gyfer Cefnogi Syniadau Gwych – gallwch wneud cais ar unrhyw adeg.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ffôn 029 2168 0214 neu e-bost wales@tnlcommunityfund.org.uk


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.