Mae'r Cronfa Cenedlaethau'r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu'r Principality nawr ar agor i geisiadau. Y dyddiad cau yw 8 Chwefror 2023 am 12pm (canol dydd) Ymunwch â'n gweminar 17 Ionawr 2023 i ddysgu mwy am y Gronfa a'r broses ymgeisio.
Cronfa Cymru gyfan yw Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’ Principality a sefydlwyd mewn partneriaeth â Chymdeithas Adeiladu’r Principality gyda’r nod o ddylanwadu’n bositif ar gymdeithas ac ar fywydau pobl ifanc yng Nghymru.
Bydd y gronfa’n cefnogi’r trydydd sector a sefydliadau cymunedol ledled Cymru i helpu / annog:
- Mwy o bobl ifanc yn cael mynediad at fwyd iach ac eitemau hanfodol eraill gan gynnwys dillad, deunydd ysgrifennu a thechnoleg
- Mwy o bobl ifanc i adeiladu cadernid ariannol ar gyfer ansicrwydd bywyd
- Mwy o bobl ifanc yn paratoi ar gyfer y dyfodol a byd gwaith (gan gynnwys meithrin sgiliau)
- Mwy o bobl ifanc yn byw’n gynaliadwy ac yn cymryd rhan mewn gwarchod ein hamgylchedd naturiol
- Mwy o bobl ifanc yn cael y cymorth iechyd meddwl y mae arnynt ei angen
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cronfa Cenedlaethau'r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu'r Principality - Community Foundation Wales