Mae cronfa newydd gwerth £4 miliwn wedi cael ei lansio gan Chwaraeon Cymru er mwyn helpu clybiau a sefydliadau chwaraeon cymunedol ar lawr gwlad.
Bydd y gronfa newydd, ‘Cronfa Cymru Actif’, yn ffynhonnell bwysig o gefnogaeth i warchod clybiau a sefydliadau cymunedol sydd wedi cael eu taro’n ddrwg gan bandemig Covid-19 a’u helpu i baratoi ar gyfer ailddechrau gweithgareddau yn ddiogel.
Mae’r cyfyngiadau symud wedi creu risg ariannol ddifrifol i lawer o glybiau cymunedol yng Nghymru oherwydd colli incwm a chostau sefydlog sydd angen eu talu.
Bydd clybiau sy’n wynebu risg ariannol yn gallu gwneud cais i Gronfa Cymru Actif nawr.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Chwareon Cymru.