Mae Cronfa Cymru Actif yn cynnig grantiau sydd rhwng £300 a £50,000 i brosiectau yng Nghymru sy’n bwriadu gwneud o leiaf un o’r canlynol:
- Lleihau anghydraddoldeb
- Creu cynaliadwyedd tymor hir
- Cyflwyno ffyrdd newydd neu wahanol o weithredu
Er enghraifft, gellid defnyddio’r cyllid i wneud y canlynol:
- Gwella sgiliau gwirfoddolwyr lle mae gan glybiau fylchau mewn sgiliau neu brofiad
- Prynu offer sy'n galluogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon
- Datblygu ffyrdd newydd neu wahanol o gyflwyno gweithgarwch corfforol
- Defnyddio technoleg i ymgysylltu â mwy o bobl
- Cyrraedd pobl sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol
Sawl gwaith y gallaf wneud cais?
Gallwch wneud cais unwaith fel clwb neu grŵp bob blwyddyn ariannol (Ebrill i Ebrill).
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cronfa Cymru Actif | Chwaraeon Cymru