BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Ddiwylliannol Cymru yn Ffrainc

Gall pobl greadigol ledled Cymru a Ffrainc bellach wneud cais am grantiau trwy Gronfa Ddiwylliannol Cymru yn Ffrainc.

Nod y Gronfa £100,000, a gyflwynir gan y Cyngor Prydeinig mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Llywodraeth Cymru, yw tanio cysylltiadau newydd ac adnewyddu cysylltiadau presennol rhwng Cymru a Ffrainc, gan gefnogi cydweithrediadau sy’n meithrin perthnasoedd hirdymor ymhlith artistiaid, ymarferwyr creadigol a sefydliadau’r celfyddydau a diwylliant. 

Rhaid i’r ceisiadau, sy’n agored i unigolion a sefydliadau sy’n gweithio ym maes diwylliant, creadigrwydd a lles, fod yn bartneriaeth rhwng o leiaf un sefydliad neu unigolyn yng Nghymru ac un yn Ffrainc. 

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 9am dydd Gwener, 30 Mehefin 2023. 

Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol Cronfa Ddiwylliannol Cymru yn Ffrainc | British Council


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.