BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa gwerth £1 filiwn at syniadau newydd i hybu iechyd yn y gwaith

Llywodraeth y DU yn lansio cystadleuaeth i fusnesau gynnig am gyfran o £1 filiwn i ysgogi arloesi ym maes Iechyd Galwedigaethol.

Bydd cynigwyr llwyddiannus yn cael hyd at £100,000 i gefnogi eu prosiectau o 19 Mai 2023 ymlaen, gan fod Llywodraeth y DU yn chwilio am atebion arloesol i yrru mynediad gwell at wasanaethau Iechyd Galwedigaethol i BBaCh a phobl hunangyflogedig. Caiff ymgeiswyr eu hannog i ddangos sut byddent yn cyflwyno gwelliannau i iechyd galwedigaethol, gan harneisio technoleg fel deallusrwydd artiffisial neu gasglu data, er mwyn cyflawni deiliannau iechyd gwell i weithwyr BBaChau.

Mae gwell darpariaeth iechyd i staff yn helpu cyflogwyr i ofalu am eu gweithlu, gan olygu bod mwy ohonynt yn debygol o aros yn y gwaith. Er bod gan gyflogwyr mwy fynediad gwell at wasanaethau Iechyd Galwedigaethol yn aml, i fusnesau llai a phobl hunangyflogedig, gallai mwy o bobl fynd yn anweithgar yn economaidd o ganlyniad i’r diffyg cymorth i bobl ag anghenion iechyd.

Gall ceisiadau gael eu gwneud gan bobl sy’n gweithio ar eu pen eu hunain neu gyda rhai eraill o fyd busnes, sefydliadau ymchwil, sefydliadau ymchwil a thechnoleg, neu’r rhai o’r trydydd sector.

Mae’r gystadleuaeth yn cau ar 15 Mawrth 2023.

Am ragor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Trosolwg o’r gystadleuaeth - SBRI: Cynyddu mynediad at, a chapasiti, ym maes Iechyd Galwedigaethol: Cam 1 – Gwasanaeth Cyllid Arloesi (apply-for-innovation-funding.service.gov.uk)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.