Gallai Cronfa Gymorth Brexit BBaChau roi hyd at £2,000 i’ch helpu gyda hyfforddiant neu gyngor proffesiynol, os oes gan eich busnes hyd at 500 o weithwyr a throsiant o ddim mwy na £100 miliwn y flwyddyn.
Gall masnachwyr wneud cais am hyd at £2,000 i gyd drwy ddau fath o grantiau.
Grantiau ar gyfer Hyfforddiant:
Gellir defnyddio’r grantiau i ddarparu hyfforddiant ar y canlynol:
- Sut mae cwblhau datganiadau tollau
- Sut mae rheoli prosesau tollau a defnyddio meddalwedd a systemau tollau
- Elfennau penodol cysylltiedig â mewnforio ac allforio, gan gynnwys TAW, tollau a threthi a rheolau tarddiad
Grant ar gyfer Cyngor Proffesiynol:
Gellir defnyddio’r grant i gael cyngor proffesiynol, fel y gall eich busnes fodloni ei ofynion tollau, trethi, TAW ar fewnforion neu ddatganiadau diogelwch.
Dysgwch fwy am gymhwystra ar gyfer y gronfa a sut i wneud cais ar-lein.
Bydd ceisiadau yn cau ar 30 Mehefin 2021 neu cyn hynny os bydd yr holl gyllid wedi ei ddyrannu cyn y dyddiad hwn.
Am ragor o wybodaeth am sut i baratoi eich busnes ar gyfer y rheolau newydd rhwng y DU a’r UE, ewch i Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru.