Mae gan Llywodraeth y DU *Gronfa Gymorth Brexit gwerth £20 miliwn i gefnogi busnesau bach a chanolig i addasu i reolau tollau, tarddiad a TAW newydd wrth fasnachu gyda'r UE.
Bydd BBaChau sy'n masnachu gyda'r UE yn unig, ac sydd felly'n newydd i brosesau mewnforio ac allforio, yn cael eu hannog i wneud cais am grantiau o hyd at £2,000 i bob masnachwr i dalu am gymorth ymarferol gan gynnwys hyfforddiant a chyngor proffesiynol i sicrhau y gallant barhau i fasnachu'n effeithiol â'r UE.
Fe'i sefydlwyd i gefnogi busnesau i baratoi ar gyfer y rheolaethau mewnforio newydd sy'n dod i rym ym mis Ebrill a mis Gorffennaf, fel y nodir yn y Model Gweithredu ar y Ffin.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.