BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Gymunedol Gogledd Cymru

Yr Wyddfa

Bellach, gall elusennau a sefydliadau cymunedol Gogledd Cymru wneud cais am gyfran o’r £3,000 sydd yng nghronfa newydd Cronfa Gymunedol Gogledd Cymru. Bydd tri grŵp yn derbyn £1,000 yr un.

Nod y fenter hon gan Go North Wales, sy’n rhan o Dwristiaeth Gogledd Cymru, a holidaycottages.co.uk yw cefnogi grwpiau lleol sy'n cael effaith gadarnhaol ar eu cymunedau.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 4 Awst 2024.

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i Menter y Gronfa Gymunedol | Twristiaeth Gogledd Cymru

Mae twristiaeth yn fusnes mawr yng Nghymru. Gall bod yn berchen ar eich busnes twristiaeth eich hun a'i redeg fod yn brofiad gwerth chweil. 

Waeth a ydych chi’n ystyried dechrau busnes twristiaeth newydd, eich bod eisoes wedi cymryd y camau cyntaf neu’n awyddus i dyfu eich busnes presennol, gallwn helpu gyda chyllid ar gyfer prosiectau newydd neu brosiectau sy'n bodoli eisoes, cynlluniau gradd sêr ar gyfer ansawdd llety ac atyniadau i dwristiaid, a gallwn helpu i hyrwyddo’ch busnes. Rydych chi yn y lle iawn ar gyfer cymorth busnes wedi'i deilwra ar gyfer busnesau twristiaeth: Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.