Gall elusennau, ysgolion a grwpiau cymunedol wneud cais am grantiau hyd at £1,000 drwy Gronfa Gymunedol NFU Mutual Mae’r gronfa ar gael mewn ardaloedd sy’n lleol i weithrediadau NFU Mutual yn y DU
Mae ceisiadau’n fwy tebygol o lwyddo os ydyn nhw’n bodloni un neu fwy o flaenoriaethau canlynol y gronfa:
- cysylltu’r gymuned; lleihau ynysu cymdeithasol, darparu cyfleoedd ac annog cydnerthedd
- darparu gofal a chymorth i aelodau o'r gymuned sy’n agored i niwed
- lleddfu tlodi; gwella iechyd a llesiant ein cymunedau
- gwella addysg a phrofiadau pobl ifanc
Bydd blaenoriaeth hefyd yn cael ei rhoi i’r canlynol:
- ceisiadau sy’n cael eu cefnogi gan aelodau o staff NFU Mutual neu un o swyddfeydd eu canghennau lleol
- buddiolwyr nad ydynt wedi cael cyllid o'r blaen
Mae tair rownd o geisiadau yn 2020 ac mae’n rhaid i’r ceisiadau ddod i law erbyn:
- 30 Mehefin 2020
- 30 Medi 2020
- 1 Rhagfyr 2020
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan NFU Mutual.