
Wrth i dechnolegau Deallusrwydd Artiffisial esblygu'n gyflym, mae cydweithredu â'r gymuned ymchwil yn hanfodol er mwyn datblygu'r genhedlaeth nesaf o offer, gwerthusiadau a mesurau lliniaru Deallusrwydd Artiffisial yn ddiogel.
Bydd y Gronfa Her yn dyfarnu grantiau sy'n amrywio o £50,000 i £200,000 fesul prosiect, wedi'u teilwra er mwyn cwmpasu cynigion, i fynd i'r afael â chwestiynau di-oed sydd heb eu datrys ym maes diogelwch Deallusrwydd Artiffisial. Gall ymchwilwyr ledled y byd gael mynediad at grantiau ar gyfer ymchwil arloesol mewn meysydd fel ymosodiadau seiber a chamddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial.
Bydd y gronfa'n canolbwyntio ar gefnogi ymchwil sy'n mynd i'r afael â phedair her holl bwysig ym maes diogelwch Deallusrwydd Artiffisial:
- Mesurau diogelu
- Rheoli
- Alinio
- Cydnerthedd Cymdeithasol
Wrth i Ddeallusrwydd Artiffisial gael ei gynnwys mewn marchnadoedd ariannol, gofal iechyd, a gridiau ynni, gallai methiannau neu gamddefnydd darfu ar systemau ac achosi risgiau diogelwch. Mae systemau Deallusrwydd Artiffisial hefyd yn cael eu targedu'n gynyddol ar gyfer manipwleiddio, gyda drwgweithredwyr yn ceisio osgoi mesurau diogelu a manteisio ar alluoedd datblygedig. Bydd y cyllid hwn yn cefnogi ymchwil i gryfhau amddiffyniadau a lleihau'r risgiau hyn.
Mae'r Gronfa wedi'i chynllunio i gefnogi ystod amrywiol o brosiectau sy'n cyfrannu at faes ehangach datblygu Deallusrwydd Artiffisial diogel.
Mae'r ceisiadau bellach ar agor.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Grants | The AI Security Institute (AISI)