Mae Cronfa i Gymru yn gronfa gwaddol gymunedol genedlaethol, sy’n cael ei rheoli a’i hyrwyddo gan Sefydliad Cymunedol Cymru.
Mae’n rhaglen hybu dyngarwch a rhoi grantiau sy’n codi arian gan bobl a sefydliadau ledled Cymru, y DU a thramor sydd am ‘roi yn ôl’ i gefnogi a chryfhau cymunedau lleol: mae’r Gronfa i Gymru yn cysylltu pobl sy’n poeni ac achosion pwysig.
Mae Cronfa i Gymru yn agored i elusennau a mudiadau gwirfoddol bach, lleol, dan arweiniad y gymuned (e.e. cymdeithasau, mentrau cymdeithasol, Cwmnïau Buddiannau Cymunedol a chlybiau), gydag incwm blynyddol o lai na £100,000.
Canlyniadau’r Gronfa:
- Gwella cyfleoedd pobl mewn bywyd
- Adeiladu cymunedau cryfach
- Gwella amgylcheddau gwledig a threfol
- Annog pobl a chymunedau iachach a mwy egnïol, a
- Gwarchod treftadaeth a diwylliant.
Mae'r Gronfa hon yn cau ddydd Llun 16 Rhagfyr am 12pm (canol dydd).
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Cronfa i Gymru - Community Foundation Wales