Mae Cronfa Ôl-osod ar gyfer y Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality yn gronfa Cymru gyfan a sefydlwyd mewn partneriaeth â Chymdeithas Adeiladu’r Principality gyda’r nod o wella’r amgylchedd yng Nghymru.
Bydd y gronfa hon yn cefnogi sefydliadau ledled Cymru i wella eu heffeithlonrwydd ynni trwy ôl-osod adeiladau neu brynu offer a fydd yn gwneud adeilad neu ofod cymunedol yn fwy ecogyfeillgar a/neu effeithlon yn amgylcheddol.
Byddwn yn blaenoriaethu sefydliadau a phrosiectau sy’n cynyddu hygyrchedd i’r rhai hynny sy’n cael eu tanwasanaethu neu’n agored i niwed. Mae hyn yn cynnwys prosiectau sy’n cefnogi unigolion o gefndiroedd sydd â nodweddion gwarchodedig yn ôl Deddf Cydraddoldeb 2010 ac unigolion o’r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Enghreifftiau o welliannau amgylcheddol y byddwn yn eu hystyried:
- paneli solar neu bympiau gwres
- inswleiddio
- goleuadau ynni effeithlon
- systemau storio batri
Grantiau sydd ar gael
Grantiau mawr o hyd at £25,000 am 1 flwyddyn.
Pwy all wneud cais?
Yr ardal ddaearyddol a ariennir: Cymru a changhennau o'r Principality sydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Os ydych yn sefydliad sydd wedi'i leoli yng Nghaer, Croesoswallt, Henffordd neu'r Amwythig, trefnwch sgwrs gyda Swyddog Grantiau, i gael gwybod a yw eich lleoliad chi’n gymwys i wneud cais am gyllid.
Rhaid i chi fod yn un o'r canlynol:
- Grŵp Cyfansoddiadol
- Elusen Gofrestredig neu Sefydliad Corfforedig Elusennol
- Cwmni Cyfyngedig drwy Warant
- Cwmni Buddiannau Cymunedol
- Menter Gymdeithasol
Mae ceisiadau ar agor i sefydliadau yn unig. Mae'r Gronfa hon yn cau ddydd Llun 30 Medi 2024 am 12pm (hanner dydd).
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Cronfa Ôl-osod ar gyfer y Dyfodol Cymdeithas Adeiladu'r Principality - Community Foundation Wales