BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Paratoi at y Dyfodol Llywodraeth Cymru

Funding

Gwiriwch a yw'ch busnes yn gymwys i elwa o grantiau i helpu i leihau eich costau.

Gall busnesau micro, bach a chanolig yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden nawr wirio a ydynt yn gymwys i gael cyllid gan Lywodraeth Cymru i'w helpu i leihau eu costau.

Bydd grantiau o rhwng £5,000 a £10,000 ar gael drwy Gronfa Paratoi at y Dyfodol Llywodraeth Cymru i helpu busnesau i fuddsoddi mewn technoleg ynni adnewyddadwy, gwneud gwelliannau i adeiladwaith eu hadeiladau, ac uwchraddio systemau neu beiriannau i leihau'r defnydd o ynni.

Er mwyn gwneud cais am y grant, mae'n rhaid i'r busnes:

  • fod wedi ei leoli yng Nghymru ac yn cyflogi pobl yng Nghymru; 
  • gyflogi rhwng 1 a 249 o bobl;
  • fod yn masnachu ers cyn 1 Ebrill 2023;
  • fod yn gweithredu o eiddo sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £51,000; a
  • fod naill ai'n berchen neu'n prydlesu'r safle busnes ar brydles o leiaf 3 blynedd sy'n ymestyn y tu hwnt i 1 Ebrill 2026.

Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael y cyllid, cyn i'r ceisiadau agor ym mis Mai 2024.

Mae’r alwad ar gyfer y gronfa gystadleuol hon yn agored ar gyfer ceisiadau hyd at 11:59pm ddydd Iau 6 Mehefin 2024 neu hyd nes y bydd cyfanswm gwerth y ceisiadau a gyflwynir yn fwy na’r dyraniad cyllidebol. 

Gallwch ddefnyddio'r offeryn hwn i wirio eich cymhwysedd ar gyfer y cyllid: https://businesswales.gov.wales/cy/cronfa-paratoiaty-dyfodol

Mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'i ymestyn i 12pm, 13 Mehefin 2024. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.