BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa £1.5 miliwn yn agor i ddathlu Cymru yng Nghwpan y Byd

Wrth i ni ddechrau cyfri y 100 diwrnod (o 13 Awst 2022) i lawr tan gêm gyntaf Cwpan y Byd Cymru mewn 64 o flynyddoedd, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi lansio cronfa gwerth £1.5 miliwn i hyrwyddo a dathlu Cymru.

Bydd y gronfa yn cefnogi amrywiol sefydliadau o ddiwylliant, y celfyddydau, chwaraeon a'r cyfryngau ar gyfer gweithgareddau i ddathlu Cymru yng Nghwpan y Byd. Gallai hyn gynnwys gweithgaredd i hyrwyddo Cymru yn fyd-eang, darparu digwyddiadau i gymryd rhan mewn chwaraeon, cysylltu â'r Cymry ar wasgar, neu helpu cefnogwyr i ddathlu'r gemau yma yng Nghymru a ledled y byd.

Mae Cronfa Cefnogi Partneriaid Cwpan y Byd yn un rhan o'r gweithgareddau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynllunio i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd sy'n deillio o gyfranogiad cyffrous Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA yn Qatar yn ddiweddarach eleni. Mae cyfanswm o hyd at £1.5 miliwn ar gael ar gyfer y Gronfa Cymorth i Bartneriaid a gall sefydliadau wneud cais am hyd at £500,000 i ddarparu project neu weithgareddau amrywiol.  Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1pm ddydd Gwener 26 Awst 2022. Gellir gofyn am ffurflen gais drwy e-bostio TimCymru.CwpanYByd22@llyw.cymru

Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r twrnamaint byd-eang i hyrwyddo Cymru i'r byd, gan amlygu gwerthoedd ein gwlad a sicrhau gwaddol gadarnhaol a pharhaol i Gymru a phêl-droed Cymru.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.