Nod y gronfa hon yw cryfhau cydnerthedd rhwydwaith Cymru o safleoedd tir a morol gwarchodedig.
Ai hon yw'r rhaglen iawn i chi?
- Ydych chi'n unigolyn neu'n sefydliad sy'n gweithio gyda threftadaeth naturiol yng Nghymru?
- A oes angen ariannu arnoch i gynllunio neu gyflwyno prosiect sy'n seiliedig ar fyd natur?
- A yw eich prosiect yn canolbwyntio ar wella bywyd gwyllt a bioamrywiaeth yng Nghymru o fewn ac o amgylch y rhwydwaith o safleoedd gwarchodedig?
Os gwnaethoch chi ateb yn gadarnhaol i'r cwestiynau hyn, yna mae'r Gronfa Rhwydweithiau Natur yn addas i chi.
Nod y Gronfa Rhwydweithiau Natur yw gwella cyflwr a chydnerthedd rhwydwaith Cymru o safleoedd tir a morol gwarchodedig. Mae'n elfen allweddol o gyflwyno Rhaglen Rhwydweithiau Natur ehangach Llywodraeth Cymru.
Terfynau amser ymgeisio:
- Terfyn amser ar gyfer Mynegiad o Ddiddordeb £250,000 - £1 miliwn: 16 Awst 2024
- Terfyn amser ymgeisio ar gyfer £250,000 - £1 miliwn: 8 Tachwedd 2024
Mae'r cynllun yn agored i bob tirfeddiannwr preifat a sefydliad sy'n gweithio gyda threftadaeth naturiol yng Nghymru. Rhaid i chi ddangos eich bod yn ymwybodol o feddu ar y caniatadau, y trwyddedau a'r cydsyniadau cywir sydd eu hangen i ymgymryd â gweithgaredd ar y rhwydwaith safleoedd gwarchodedig neu'r ardaloedd cyfagos, a'ch bod wedi sicrhau'r rhain yn barod neu'n gweithio tuag at eu sicrhau. Mae'n rhaid i'r ardal yr ydych yn ei wella fod yng Nghymru, ond gallwch chi/eich sefydliad fod wedi’ch lleoli unrhyw le yn y DU.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol am ragor o wybodaeth: Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd 4) | Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (heritagefund.org.uk)