Ydych chi'n unigolyn neu sefydliad yn gweithio gyda threftadaeth naturiol yng Nghymru?
Oes angen cyllid arnoch ar gyfer prosiect sy'n seiliedig ar natur sy'n barod i ddechrau?
Ydy eich prosiect yn canolbwyntio ar wella bywyd gwyllt a bioamrywiaeth yng Nghymru?
Oes angen grant rhwng £30,000 ac £1 miliwn arnoch?
Os ydych yn cytuno gyda'r cwestiynau hyn, yna mae'n bosibl fod y Gronfa Rhwydweithiau Natur (rownd dau) ar eich cyfer chi.
Nod y gronfa hon yw cryfhau gwytnwch rhwydwaith Cymru o safleoedd tir a morol gwarchodedig, gan gefnogi adferiad natur wrth fynd ati i annog y gwaith o ymgysylltu â'r gymuned.
Mae'r cynllun yn agored i bob unigolyn a mudiad sy'n gweithio gyda threftadaeth naturiol yng Nghymru. Darperir hyn bod gennych y caniatâd, y trwyddedau a'r hawliau cywir yn eu lle i ymgymryd â gweithgarwch ar y rhwydwaith safle gwarchodedig neu'r ardaloedd cyfagos. Mae'n rhaid i'r safle/tir rydych chi'n ei wella fod yng Nghymru, ond gallwch chi/eich sefydliad fod wedi'ch lleoli yn unrhyw le yn y DU.
Grantiau rhwng £30,000 a £250,000:
- dyddiad cau ar gyfer ymgeisio 12pm, 19 Hydref 2022
Gantiau rhwng £250,000 a £1 miliwn:
- dyddiad cau Mynegi Diddordeb gorfodol (EOI): 20 Medi 2022
- dyddiad cau ar gyfer ymgeisio: 12pm, 7 Rhagfyr 2022
I gael mwy o wybodaeth, ewch i Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd dau) | Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (heritagefund.org.uk)