Cafodd y Gronfa Sgiliau Creadigol ei chreu i feithrin talentau, rhai sy’n bod a rhai newydd, i helpu pobl greadigol i hyfforddi, i wella’u sgiliau ac i arallgyfeirio.
Mae hyd at £125,000 ar gael ar gyfer prosiectau sy’n gallu gwireddu un neu fwy o'r 10 blaenoriaeth ganlynol ar gyfer sgiliau yn y sectorau creadigol:
- Hyfforddiant Busnes ac Arweinyddiaeth
- Cefnogi Talentau
- Recriwtio Amrywiaeth a Recriwtio Cynhwysol yn Well
- Lleoliadau a Chyfleoedd Lefel Mynediad
- Lleoliadau a Chyfleoedd i Wella Sgiliau
- Addysg a’r Cwricwlwm Newydd
- Ymwybyddiaeth o Yrfaoedd
- Arloesi
- Pontio'r bwlch rhwng Addysg Bellach/Uwch a’r Diwydiant
- Lles y Gweithlu a Chefnogaeth i Weithwyr Llawrydd
Mae’r cylch cyllido hwn yn blaenoriaethu prosiectau sy’n llenwi bwlch sgiliau o fewn y sectorau sgrin, cerddoriaeth, animeiddio, gemau a thechnoleg drochi (immersive tech).
Mi fydd y gronfa’n cau i geisiadau ar 10 Mai 2024 am 12pm.
I gael mwy o wybodaeth, gweld y canllawiau a chael ffurflen gais, ewch i: Y Gronfa Sgiliau Creadigol / Cymru Greadigol.