BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF) Cam 2 gwerth £60 miliwn ar gyfer Busnesau bellach ar agor

Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) wedi agor ffenestr cystadleuaeth Cam 2: Gwanwyn 2022. 

Gall busnesau yng Nghymru nawr gynnig am gyfran o hyd at £60 miliwn mewn cyllid grant drwy ffenestr cystadleuaeth, bydd y gystadleuaeth ar agor i geisiadau o ddydd Llun 31 Ionawr 2022 tan ddydd Gwener 29 Ebrill 2022. I weld y canllawiau ar wneud cais a chyflwyno cais am gyllid, ewch i dudalen cystadleuaeth GOV.UK.

Bydd y gystadleuaeth yn darparu cyllid grant tuag at gostau:

  • Astudiaethau – astudiaethau dichonoldeb a pheirianneg i ymchwilio i brosiectau effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio a nodwyd cyn penderfyniad ynghylch buddsoddi.
  • Prosiectau Effeithlonrwydd Ynni - defnyddio technolegau i leihau defnydd ynni diwydiannol.
  • Prosiectau Datgarboneiddio Dwfn – defnyddio technolegau i wneud arbedion o ran allyriadau diwydiannol. Mae cainc yma y gystadleuaeth yn newydd.

Mae’r gystadleuaeth ar agor i’r sectorau, sefydliadau a gweithwyr proffesiynol canlynol, gan gynnwys:

  • gweithgynhyrchu
  • canolfannau data
  • cwmnïau cloddio a chwarelydda
  • cwmnïau adfer ac ailgylchu deunyddiau

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y gystadleuaeth Cam 2: Gwanwyn 2022 neu os ydych am drafod cais posibl, cysylltwch ag IETF@beis.gov.uk

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.