Mae Enterprise Nation, Uber a Be Inclusive Hospitality yn ymuno i gefnogi cwmnïau drwy'r Gronfa Busnesau Pobl Dduon.
Bydd y gronfa’n dosbarthu £250,000 i gwmnïau sy'n eiddo i bobl dduon yn y diwydiant arlwyo sy'n dal i frwydro i adfer yn dilyn y pandemig ac sydd nawr yn wynebu argyfyngau ynni a chostau byw.
Gall bwytai sy'n eiddo i bobl dduon gyda llai na phum lleoliad wneud cais i'r gronfa am grant. Bydd 25 o fwytai yn derbyn £10,000 yr un, yn ogystal â mynediad at fentora gan Enterprise Nation, er mwyn rhoi hwb gwerthfawr i'w busnesau.
Dyluniwyd y fenter i helpu bwytai annibynnol i wella eu sgiliau arwain a rheoli, datblygu strategaethau i reoli risgiau o'r tu allan i'r busnes, a chael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i adeiladu a thyfu.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 25 Tachwedd 2022.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol https://www.enterprisenation.com/uber/black-business-fund/