BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Uwchraddio Gemau Cymru

Game designer

Ewch â'ch gêm i'r lefel nesaf!

Mae hyd at £150,000 o gefnogaeth ariannol ar gael i’ch helpu i fynd â’ch prosiect gemau i’r lefel nesaf.

Mae Cymru Greadigol wedi lansio cronfa uwchraddio newydd mewn partneriaeth â UK Games Fund, a fydd yn cynnig gwobrau sy'n amrywio o £50,000 i £150,000 trwy’r Cronfa Uwchraddio Gemau.

Mae'r gronfa hon wedi'i chynllunio'n arbennig ar gyfer fusnesau datblygu gemau sydd wedi'u cofrestru a'u lleoli yng Nghymru, ar gyfer cysyniadau gemau sy'n dangos potensial cryf yn y farchnad fasnachol.

Mae’r cronfa yn cau am hanner dydd ar 16fed o Rhagfyr 2024.

Bydd Cronfa Uwchraddio Gemau yn cael ei weinyddu trwy UK Games Fund.

Dylai ceiswyr ddarllen y meini prawf cymhwysedd a’r canllawiau ar y gronfa cyn cwblhau ffurflen Mynegiant o Ddiddordeb.

Mae manylion llawn am y broses gais, gan gynnwys y meini prawf cymhwysedd, ar gael ar wefan UK Games Fund. Nodwch, bydd y ddolen hon yn eich arwain at wefan Saesneg. Mae ceisiadau yn y Gymraeg ar gael ar gais. Cysylltwch â: cymrugreadigol@llyw.cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.