Lansiwyd Cronfa’r Fenter Buddsoddi Cymunedol (CIEF) i helpu mudiadau cymunedol yng Nghymru a Lloegr i sicrhau cyllid, gyda phecynnau cyllid ar ffurf cyllid grant a benthyciadau cyfunol o hyd at £25,000 ar gael.
Mae’r gronfa’n blaenoriaethu arferion busnes cynaliadwy a datblygiad rhanbarthol, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig.
Meini prawf cymhwysedd:
- Mudiad wedi’i leoli yng Nghymru neu Loegr.
- Wedi’i sefydlu’n gyfreithiol ar ffurf elusen gofrestredig neu fenter gymdeithasol, sy’n canolbwyntio ar fudd cymdeithasol.
- Dan berchnogaeth y gymuned neu’n gweithredu er lles y gymuned.
- Yn weithredol ers o leiaf blwyddyn.
- Yn gallu dangos angen clir a budd i’r gymuned leol.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Community Enterprise Fund | Funding | Social Investment Business (sibgroup.org.uk)