BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Crowdfund Wales

Ers 2016, mae Localgiving wedi cefnogi dros 400 o sefydliadau yng Nghymru i ddatblygu eu sgiliau codi arian ar-lein a chodi dros £1 miliwn o gyllid ychwanegol. Mae'r rhaglen newydd, Crowdfund Wales, yn rhoi cyfle gwych i sefydliadau godi arian ychwanegol drwy gyllido torfol. 

Bydd cyfranogwyr yn derbyn: 

  • Aelodaeth flynyddol Localgiving â chymhorthdal 
  • Mentor cyllido torfol a hyfforddiant parhaus
  • Grant o £250 yn cael ei gynnig pan fyddwch yn cyflwyno ymgyrch cyllido torfol lwyddiannus 

Bydd eich mentor yn eich cefnogi i gyflwyno ymgyrch cyllido torfol i godi isafswm o £2,000 drwy godi arian ar-lein a rhoi'r offer a'r sgiliau i chi barhau â'ch taith codi arian ar-lein. 

I gael mwy o wybodaeth, ewch i: Rhaglen Datblygu Cymru - codi arian arlein yn hwylus (localgiving.org)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.