Yn Cymru Sero Net (2021), ailddatganodd Llywodraeth Cymru ei hymrwymiad i sicrhau ‘pontio teg’ oddi wrth economi tanwyddau ffosil y gorffennol tuag at ddyfodol newydd carbon isel. Wrth inni symud tuag Gymru lanach, gryfach a thecach, bydd cyflawni pontio teg yn golygu na fyddwn yn gadael neb ar ôl.
Rhaid mynd ati mewn ffordd gydgysylltiedig a chydlynol i gynllunio pontio effeithiol a theg. Gwyddom y bydd angen gweld trawsnewidiad trwy bob sector o’n heconomi a’n cymdeithas os ydym am sicrhau y bydd modd i Gymru gyrraedd ei thargedau hinsawdd. Gwyddom hefyd fod gan bob un ohonom rôl i’w chwarae.
Mae’r Fframwaith Pontio Teg yn pennu ymagwedd polisi strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni pontio teg. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn sail i hyn oll.
Hefyd, caiff y Fframwaith ei anelu at yr holl bartneriaid sy’n gysylltiedig â datblygu cynlluniau a chamau gweithredu ar gyfer datgarboneiddio. Ceir pecyn cymorth amlinellol yn Rhan 4 i gynorthwyo partneriaid.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar y Fframwaith Pontio Teg ar 4 Rhagfyr 2023. Yr ymgynghoriad hwn yw’r cam nesaf ar gyfer datblygu ein hymagwedd, ac mae’n adeiladu ar ein Galwad am Dystiolaeth a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2022.
Y Fframwaith
- Mae’n pennu gweledigaeth gyffredin ynglŷn â’r ffordd y bydd Cymru yn cyflawni’r newidiadau sy’n angenrheidiol ar gyfer cyrraedd sefyllfa sero net
- Bydd yn cydgysylltu ac yn cydlynu’r ffordd y meddyliwn am y newidiadau hynny a’r modd y gweithredwn yn eu cylch
- Mae’n cynnig ffynhonnell wybodaeth ac arweiniad (yn cynnwys pecyn cymorth) er mwyn galluogi’r rhai sy’n ysgogi’r newid i wneud hynny mewn ffordd a fydd yn ceisio gwneud iawn am anghydraddoldebau presennol ac osgoi creu anghydraddoldebau newydd.
Mae'r ymgynghoriad yn rhedeg tan 11 Mawrth 2024 a gellir ei weld yn: Crynodeb o'r Fframwaith Pontio | LLYW.CYMRU
Gallwch ymateb i'r ymgynghoriad drwy lenwi'r ffurflen ar-lein neu drwy lawrlwytho copi o'r holiadur a'i anfon atom drwy e-bost neu drwy'r post. NewidHinsawdd@llyw.cymru
Os ydych yn bwriadu ymateb yn ysgrifenedig, anfonwch ffurflenni wedi’u llenwi at:
Newid Hinsawdd ac Is-adran Tlodi Tanwydd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ