Mae CThEF yn cyhoeddi Bwletin y Cyflogwr 6 gwaith y flwyddyn. Mae’r Bwletin yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau ynghylch materion a allai effeithio arnynt.
Mae rhifyn mis Ebrill o Fwletin y Cyflogwr yn cynnwys erthyglau ar y canlynol:
- rhoi gwybod am dreuliau a buddiannau ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2023
- yr arolwg blynyddol, Dweud Wrth ABAB, sy’n rhoi’r cyfle i fusnesau bach leisio’u barn yn uchel yn y system dreth
- deall eich ymrwymiadau o ran hawl i weithio ac Isafswm Cyflog Cenedlaethol
- fideos YouTube ynghylch goruchwyliaeth gwrth-wyngalchu arian i helpu busnesau
- paratoi ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd
- y gyfradd llog swyddogol o 6 Ebrill 2023 ymlaen
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol Bwletin y Cyflogwr: Ebrill 2023 - GOV.UK (www.gov.uk)