Mae CThEF yn cyhoeddi Bwletin y Cyflogwr 6 gwaith y flwyddyn. Mae’r Bwletin yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau ynghylch materion a allai effeithio arnynt.
Mae rhifyn mis Mawrth o Fwletin y Cyflogwr yn cynnwys erthyglau ar y canlynol:
- taliad Cytundeb Setliad TWE
- rhoi gwybod am dreuliau a buddiannau ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2024
- mandadu talu buddiannau drwy’r gyflogres o fis Ebrill 2026 ymlaen
- cyfrifiannell dreth TWE
- diwygio’r cyfnod sail — adrodd ar sail blwyddyn dreth
- hawlio rhyddhad treth ar dreuliau sy’n gysylltiedig â gwaith — peidiwch â chael eich dal allan trwy gyngor dreth gwael
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Rhifyn mis Mawrth 2024 o Fwletin y Cyflogwr