Mae CThEF yn cyhoeddi Bwletin y Cyflogwr 6 gwaith y flwyddyn. Mae’r Bwletin yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau ynghylch materion a allai effeithio arnynt.
Mae rhifyn mis Rhagfyr o Fwletin y Cyflogwr yn cynnwys erthyglau ar y canlynol:
- gostyngiad yng nghyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol o 6 Tachwedd 2022 ymlaen – arweiniad wedi’i ddiweddaru
- talu treuliau a buddiannau drwy’r gyflogres ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024
- Treth Deunydd Pacio Plastig – gwiriwch a oes angen i’ch busnes gofrestru
- newidiadau i gyfraddau Treth Car Cwmni o fis Ebrill 2025 ymlaen
- Cynllun y Diwydiant Adeiladu – ceisiadau am ddatganiadau o daliadau a didyniadau
- y Bwrdd Cynghori Beichiau Gweinyddol (ABAB)
I gael mwy o wybodaeth, ewch i Bwletin y Cyflogwr: Rhagfyr 2022 - GOV.UK (www.gov.uk)