BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

CThEF yn atgoffa busnesau am gosbau TAW newydd a thaliadau llog

Mae Cyllid a Thollau EF yn atgoffa busnesau sydd wedi cofrestru at ddibenion TAW i ffeilio eu ffurflenni a thalu ar amser, cyn i gosbau newydd gael eu cymhwyso.

Mae disgwyl i'r ffurflenni misol cyntaf a'r taliadau sy'n cael eu heffeithio gan y cosbau gael eu cyhoeddi erbyn 7 Mawrth 2023.

Cyflwynwyd y cosbau talu hwyr a'r cosbau cyflwyno hwyr ar sail pwyntiau o 1 Ionawr 2023, gan ddisodli'r gordal diofyn TAW, ac maent yn berthnasol i gyfnodau cyfrifo sy'n dechrau ar ôl y dyddiad hwnnw.

Mae'r cosbau ar gyfer ffurflenni TAW hwyr hefyd yn berthnasol i fusnesau sy'n cyflwyno ffurflenni nil a ffurflenni ad-dalu. Mae newidiadau wedi cael eu gwneud hefyd i sut mae llog yn cael ei gyfrifo.

Mae CThEF hefyd yn atgoffa busnesau i fod yn ymwybodol o sgamiau wrth iddynt addasu i'r newidiadau. Ni ddylai busnesau fyth rannu eu manylion mewngofnodi CThEF. Gallai rhywun sy'n eu defnyddio ddwyn o'r busnes neu wneud hawliad twyllodrus yn ei enw.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol HMRC reminds businesses about new VAT penalties and interest payments - GOV.UK (www.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.