BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

CThEM: Allforio a Mewnforio

Gan fod y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE), mae angen datgan tollau ar bopeth sy’n cael ei fewnforio a’i allforio rhwng Prydain Fawr a’r UE. Efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd dalu tollau a pharhau i dalu trethi eraill fel TAW mewnforio.

Dyma’r pethau pwysig i’w cofio:

  • os ydych chi’n allforio, mae eisoes angen i chi wneud datganiadau allforio wrth allforio'ch nwyddau 
  • os ydych chi’n mewnforio nwyddau rheoledig, mae’n rhaid i chi hefyd wneud datganiadau mewnforio llawn ar unwaith wrth fewnforio'ch nwyddau 
  • os ydych chi’n mewnforio nwyddau nad ydynt yn rhai rheoledig o’r UE yn 2021, mae gennych chi ddau ddewis, naill ai rhaid gwneud datgeliad tollau llawn wrth i’r nwyddau gyrraedd Prydain Fawr neu gallwch oedi'ch datganiadau 
  • os ydych chi’n dewis oedi, byddwch chi, neu’r arbenigwr tollau rydych chi wedi’i gyflogi i weithredu ar eich rhan (fel asiant tollau neu gludydd llwythi) wedi cadw cofnodion manwl (a elwir yn Entry in Declarants Records neu EIDR) pan wnaethoch chi fewnforio’r nwyddau, a bydd angen i chi (neu’r arbenigwr tollau) hefyd wneud datganiad atodol o fewn 175 diwrnod i’r dyddiad y cyrhaeddodd eich nwyddau Prydain Fawr.

Cefnogaeth a chyfarwyddyd ar gyfer busnesau 

Fideos YouTube – gwyliwch sianel YouTube CThEM i ymgyfarwyddo â phrosesau tollau a’r hyn sydd angen i chi ei wneud cyn masnachu nwyddau gyda’r UE.

Gweminarau byw - gweminarau dyddiol yn cynnwys:

  • Datganiadau mewnforio tollau: trosolwg
  • Allforio: beth sydd angen i chi ei wneud i gadw’ch nwyddau i symud
  • Mewnforio: beth sydd angen i chi ei wybod am fesurau rheoli fesul cam
  • Cyfrifoldebau masnachwyr wrth ddefnyddio cyfryngwr.

Os hoffech fynychu gweminar, gallwch gofrestru yma.

Fforymau – os hoffech ofyn a chael atebion i gwestiynau penodol am brosesau CThEM ar gyfer mewnforio neu allforio, ewch i fforymau cwsmeriaid CThEM.

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.