BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

CThEM yn annog gofal wrth i dwyllwyr geisio herwgipio cyfrifon treth personol

Mae CThEM yn rhybuddio unigolion i beidio â rhannu eu gwybodaeth bersonol ar-lein er mwyn osgoi bod eu manylion yn cael eu defnyddio i hawlio ad-daliadau treth ffug wedi Hunanasesiad.

Mae unigolion, yn amrywio o bobl ifanc yn eu harddegau i bensiynwyr, yn cael eu targedu ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol gan dwyllwyr sy’n ceisio ‘benthyg’ eu manylion personol. Yn gyfnewid am hynny, rhoddir addewid i unigolion am gyfran o’u had-daliadau treth ‘heb unrhyw risg’.

Mae rhannu gwybodaeth bersonol sensitif â throseddwyr fel hyn, hyd yn oed yn anfwriadol, yn golygu y gallai’r bobl hyn fod yn gwneud eu hunain yn rhan o dwyll treth, ac y gallent orfod talu gwerth llawn yr hawliad twyllodrus yn ôl.

Felly, dylai cwsmeriaid ddelio â CThEM yn uniongyrchol neu drwy eu cynghorydd treth, ac nid mewn unrhyw ffordd arall, mewn perthynas â’u had-daliadau treth ar ôl Hunanasesu.

Am ragor o wybodaeth, ewch i HMRC urges caution as fraudsters seek to hijack personal tax accounts - GOV.UK (www.gov.uk)

Mae gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol ganllawiau defnyddiol ar sut i aros yn ddiogel ar-lein a diogelu’ch hun a’ch busnes yn erbyn seiberdroseddu
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.