BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

CThEM yn cyhoeddi newid i’r rheolau gweithio oddi ar y gyflogres (IR35)

Fel rhan o adolygiad o newidiadau i weithrediad y rheolau gweithio oddi ar y gyflogres (IR35), mae CThEM wedi cyhoeddi ei fod yn mynd i roi mwy o amser i fusnesau baratoi.

Mae pryderon busnesau ynghylch pa daliadau y mae’r rheolau’n berthnasol iddynt ac o ba bryd maen nhw’n berthnasol, yn fater cyffredin a gododd yn ystod yr adolygiad. Mae’r llywodraeth wedi gwrando ac wedi gweithredu’n gynnar i roi sicrwydd i fusnesau a mwy o amser iddynt baratoi i sicrhau bod y diwygiadau sy’n dod i rym ym mis Ebrill yn cael eu rhoi ar waith yn ddidrafferth ac yn llwyddiannus.

Dim ond i daliadau am wasanaethau a ddarperir ar 6 Ebrill 2020 neu ar ôl hynny y bydd y rheolau, a elwir hefyd yn IR35, yn berthnasol o hyn ymlaen. Yn flaenorol, byddai’r rheolau wedi bod yn berthnasol i unrhyw daliadau a gâi eu gwneud ar 6 Ebrill 2020 neu ar ôl hynny, waeth pryd cafodd y gwasanaethau eu darparu. Mae’n golygu mai’r cyfan y bydd angen i’r sefydliadau ei wneud yw penderfynu a yw’r rheolau’n berthnasol i’r contractau maent yn bwriadu eu parhau y tu hwnt i 6 Ebrill 2020, gan gefnogi busnesau wrth iddynt baratoi.

Nodir hyn yng nghanllawiau diweddaraf y Llawlyfr Statws Cyflogaeth.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.