Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) yn ysgrifennu at fusnesau i ddweud wrthynt am newid i’r systemau tollau yn y DU.
Mae'r llythyr yn cynnwys gwybodaeth am y gwaith sydd ar y gweill i symud i un platfform tollau yn y DU - y Gwasanaeth Datganiadau Tollau - ac mae’n amlinellu’r hyn sydd angen i fusnesau ei wneud i baratoi ar gyfer y newid, a pha gymorth a chyfarwyddyd sydd ar gael i’w cynorthwyo drwy’r broses.
Y Gwasanaeth Datganiadau Tollau fydd yr unig blatfform tollau yn y DU ar ôl 31 Mawrth 2023, gan gymryd lle’r system Trin Tollau Nwyddau Mewnforio ac Allforio (CHIEF). Cyn ei chau’n llwyr, bydd y swyddogaeth datgan mewnforion yn dod i ben ar 30 Medi eleni.
I helpu busnesau ac asiantau i baratoi ar gyfer y Gwasanaeth Datganiadau Tollau, mae CThEM wedi cyhoeddi camau allweddol y gall masnachwyr eu dilyn.
Gallwch ddefnyddio llinellau cymorth a gwe-sgwrs i gysylltu â CThEM hefyd.
Os yw busnesau angen cymorth ac arweiniad ychwanegol i fodloni eu rhwymedigaethau tollau, gallant:
- wylio fideos a gweminarau wedi'u recordio ar bynciau fel mewnforion, allforion, rheolau tarddiad, a datganiadau mewnforio ac allforio
- ffoniwch linell gymorth Tollau a Masnach Ryngwladol ar 0300 322 9434 - mae’r llinell gymorth ar gael rhwng 8am a 10pm ddydd Llun i ddydd Gwener, ac 8am i 4pm ar benwythnosau.
Mae CThEM wedi cyhoeddi copïau o’r llythyrau a anfonir at fusnesau ynghylch mewnforio ac allforio nwyddau rhwng Prydain Fawr a'r UE.