BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cwmnïau o Gymru yn ennill mwy na £1 miliwn o fusnes newydd yn Sioe Awyr Paris

Cows in a field in Barafundle Bay, Pembrokeshire

Mae mwy na £1 miliwn o fusnes newydd wedi'i sicrhau gan ddirprwyaeth Cymru i Sioe Awyr Paris ym mis Mehefin gyda dros £3.6 miliwn mewn cyfleoedd pellach wedi'u nodi hefyd (15 Awst 2023), yn ôl Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething.

Sioe Awyr Paris yw'r digwyddiad awyrofod mwyaf yn y byd, gan ddenu dros 2,400 o arddangoswyr o 49 o wledydd a 139,000 o ymwelwyr masnach o 185 o wledydd.

Mae Cymru yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer gweithgynhyrchu awyrofod a gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag MRO (cynnal a chadw, atgyweirio ac ailwampio), gyda dros 160 o gwmnïau'n cyflogi mwy na 23,000 o bobl ledled y wlad, gan gyfrif am 10% o ddiwydiant awyrofod y DU.

Yn y sioe eleni, arweiniodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, ddirprwyaeth o 7 cwmni a phrifysgol yng Nghymru, Maes Awyr Caerdydd ac Awyrofod Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol Cwmnïau o Gymru yn ennill mwy na £1 miliwn o fusnes newydd yn Sioe Awyr Paris | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.