BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyber Runway: Cymerwch ran

Gyda Cyber Runway, gall entrepreneuriaid a busnesau o’r pedair cenedl fanteisio ar ddosbarthiadau meistr ar fyd busnes, mentora, cymorth i ddatblygu prosiectau, digwyddiadau rhwydweithio a chefnogaeth i fasnachu’n rhyngwladol a sicrhau buddsoddiad, gan eu helpu i droi eu syniadau yn llwyddiannau masnachol.

Mae’r sbardunwr yn cael ei gynnig wyneb yn wyneb ac yn rhithwir ledled y DU.

Llenwch y ffurflen os hoffech gyflwyno mynegiant o ddiddordeb a chysylltwch â  cyberrunway@plexal.com os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os ydych chi am gefnogi’r rhaglen fel mentor, buddsoddwr neu bartner a all helpu i lunio rhaglen gynhwysol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Plexal. 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.