BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cychwyn adran 156 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau y DU yng Nghymru – cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad

Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar amseriadau ar gyfer cychwyn adran 156 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau y DU 2022, yng Nghymru. Bydd y newidiadau’n effeithio ar bob safle y mae Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn berthnasol iddo a bydd yn gosod dyletswyddau ychwanegol ar y rhai sy’n gyfrifol am ddiogelwch tân yn yr adeiladau hyn. Caeodd yr ymgynghoriad ar 19 Mai 2023.

Mae crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad wedi cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Cychwyn adran 156 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 y DU yng Nghymru | LLYW.CYMRU 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.