BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cychwyn rhaglen gymorth i Fusnesau Ffasiwn, Tecstilau a Thechnoleg

Mae Rhaglen Gymorth Ymchwil a Datblygu Busnesau Bach a Chanolig Ffasiwn, Tecstilau a Thechnoleg bellach wedi agor i’r sawl sydd am ddatgan diddordeb.

Mae’r sector ffasiwn, tecstilau a thechnoleg yn fywiog, arloesol ac amlddisgyblaeth, mae’n llywio llawer o sectorau cysylltiedig yn y diwydiant ehangach, ac yn llythrennol yn rhychwantu pob math o feysydd, o amaethyddiaeth i hysbysebu.

Nod yr alwad hon am gyllid yw cefnogi mentrau bach a chanolig i ddatblygu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau’r genhedlaeth nesaf ym maes ffasiwn, tecstilau a thechnoleg – gydag arloesedd cynaliadwy wrth eu craidd.

Croesewir cwmnïau Ffasiwn, Tecstilau a Thechnoleg i ddatgan diddordeb, yn ogystal â rhai ym meysydd ehangach Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Celfyddydau a Mathemateg sydd â diddordeb mewn cydweithio â’r sector Ffasiwn, Tecstilau a Thechnoleg, ac sy’n awyddus i newid cyfeiriad eu busnes yn sylweddol.

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru eich diddordeb yw 7 Medi 2020.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan BFTT.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.