BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyd-hysbysiad gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Iwerddon Porthladd Caergybi

Holyhead Port

Rydym wedi derbyn diweddariad y prynhawn yma (17 Rhagfyr 2024) gan Stena na fydd Porthladd Caergybi yn ailagor tan 15 Ionawr 2025 ar y cynharaf yn dilyn y difrod a gafwyd yn ystod Storm Darragh.

Nid dyma'r newyddion yr oedd unrhyw un ohonom eisiau ei glywed. Fodd bynnag, mae’n rhoi eglurder fel gall cynlluniau wrth gefn eu rhoi ar waith.

Roeddem eisoes yn gweithio mewn partneriaeth ar gynlluniau wrth gefn pe baem yn y sefyllfa hon ac rydym yn bwrw ymlaen â'r rheini yn gyflym yn awr.

Lle mae capasiti sbâr mewn porthladdoedd fferi eraill, bydd y rhain yn cael eu defnyddio fel y mae Stena wedi ei amlinellu. Mae'r cwmnïau fferi wedi symud eu llongau i borthladdoedd eraill a byddant yn helpu teithwyr sydd wedi archebu lle ar deithiau i Gaergybi neu oddi yno.

Mae'r cwmnïau fferi am gysylltu a'u teithwyr a byddem yn annog teithwyr a oedd yn bwriadu defnyddio Caergybi i wirio gwefan y cwmni fferi perthnasol am fanylion y dewisiadau amgen

Byddwn yn parhau i gadw mewn cysylltiad rheolaidd a gweithio gyda'r porthladd, Stena ac Irish Ferries, a gyda Chyngor Sir Ynys Môn.

Byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd yn y tymor byr i sicrhau bod teithwyr a llwythi yn cael eu cludo, ac yn y tymor hwy i gadw gwytnwch a llwyddiant Porthladd Caergybi, sydd mor bwysig i'n dwy wlad.

I ddarllen datganiad Llywodraeth Cymru yn ei gyfanrwydd, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Cyd-hysbysiad gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Iwerddon Porthladd Caergybi | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.