BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cydnabod cymwysterau proffesiynol a rheoleiddio proffesiynau: galwad am dystiolaeth

Mae’r alwad hon am dystiolaeth yn ceisio barn pobl ar ddull y DU o gydnabod cymwysterau proffesiynol a rheoleiddio proffesiynau.

Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol am glywed gan ystod eang o unigolion, busnesau a sefydliadau sy’n rhyngweithio â phob agwedd ar broffesiynau a reoleiddir, yn arbennig os ydych chi’n:

  • fyfyriwr sy’n astudio ar gyfer cymhwyster proffesiynol yn y brifysgol, mewn addysg bellach neu ar brentisiaeth
  • rhywun sy’n defnyddio gwasanaethau gweithwyr proffesiynol a reoleiddir
  • gweithwyr proffesiynol a reoleiddir yn y DU neu’n rhyngwladol
  • busnes sy’n cyflogi gweithwyr proffesiynol a reoleiddir
  • darparwr addysg sy’n cefnogi unigolion i gael y cymwysterau sydd eu hangen i ymuno â phroffesiynau a reoleiddir
  • unigolyn â buddiant penodol

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 23 Hydref 2020.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.