Mae busnesau o bob cwr o Gymru (a thu hwnt!) yn gallu creu arwyddion dwyieithog yn hyderus, diolch i wasanaeth cyfieithu a gwirio testun hwylus a chyfeillgar Helo Blod.
Dyma’n union mae Siop Lyfrau Trefaldwyn – The Bookshop Montgomery wedi’i wneud, gan fabwysiadu enw dwyieithog yn y broses! Clicia’r ddolen isod i glywed y perchennog, Barry Lord, yn sôn am sut mae gwasanaeth hawdd-i’w-ddefnyddio Helo Blod wedi’u helpu nhw i wneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg yn eu busnes: https://fb.watch/7bQ66UrbcW/
Mae Helo Blod yma i helpu busnesau ar-lein yn ogystal â’r rheini ar y stryd fawr, gyda chymorth cyfieithu neu wirio cynnwys ar gyfer:
- Gwefannau
- Negeseuon cyfryngau cymdeithasol
- Deunydd marchnata
- Labeli a phecynnau
- Cylchlythyrau
- Llofnodion e-bost
- Negeseuon peiriant ateb
Gyda'n gilydd gallwn wneud y Gymraeg yn fwy amlwg yn ein cymunedau.
Eisiau gwybod mwy? Cer i llyw.cymru/heloblod