BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfle Ariannu – Grantiau Clyfar Innovate UK

Mae Innovate UK, sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU, yn buddsoddi hyd at £25 miliwn yn y syniadau arloesol a blaenllaw gorau, wedi'u cynllunio ar gyfer masnacheiddio cyflym a llwyddiannus. Rhaid i syniadau fod yn wirioneddol newydd a gwreiddiol, nid dim ond aflonyddu yn eu sector. 

Rhaid i'ch cynnig fod â ffocws busnes, gyda chynlluniau realistig, cyflawnadwy, adnoddau digonol, i sicrhau enillion ar fuddsoddiad, twf a chyfran o'r farchnad ar ôl cwblhau'r prosiect. 

Gall ceisiadau ddod o unrhyw faes technoleg a chael eu cymhwyso i unrhyw ran o'r economi, fel, ond heb fod yn gyfyngedig i: 

Mae’n rhaid i'ch prosiect:

  • ddechrau erbyn 1 Ionawr 2023
  • gorffen erbyn 31 Rhagfyr 2025
  • cynnwys o leiaf un fenter ficro, fach neu ganolig (BBaCh) fel arweinydd neu bartner sy’n hawlio grant ar y cyd
  • cyflawni holl waith y prosiect yn y DU
  • bwriadu manteisio ar y canlyniadau o’r DU neu yn y DU

Cynhaliwyd digwyddiad briffio ymgeiswyr ar 3 Mai 2022. Gwyliwch recordiad o’r digwyddiad gan ddefnyddio’r ddolen ganlynol: APPLICANT BRIEFING - Innovate UK Smart Grant April 2022 - Zoom  

Mae’r gystadleuaeth yn cau am 11am ar 27 Gorffennaf 2022.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Competition overview - Innovate UK Smart Grants: April 2022 - Innovation Funding Service (apply-for-innovation-funding.service.gov.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.