Mae Innovate UK KTN yn chwilio am arweinwyr busnes a all ddarparu cefnogaeth ac arweiniad mentora am ddim i fenywod mwyaf blaengar y DU mewn arloesedd.
Ac maen nhw eisiau llunio partneriaeth ag arweinwyr o amrywiaeth o sectorau a all helpu i gyflymu uchelgeisiau busnes Enillwyr nesaf Gwobrau Merched sy’n Arloesi.
Maen nhw eisiau clywed gan ystod amrywiol o bobl o bob rhyw ac o unrhyw gefndir sy'n gallu cynnig mewnwelediad busnes strategol, arbenigedd sector a chefnogaeth broffesiynol.
Yn gyfnewid am hyn, byddwch yn dod yn aelod gwerthfawr o'r gymuned Merched sy’n Arloesi, sy'n ymroi i rymuso menywod blaengar i gyflawni eu huchelgeisiau busnes tra'n meithrin a dathlu amrywiaeth rhywedd drwy gydol arloesedd y DU.
Os hoffech archwilio'r cyfle hwn ymhellach neu’n adnabod rhywun a allai, dylech wneud cais erbyn 19 Rhagfyr 2022.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Opportunity to mentor pioneering women in innovation - Innovate UK KTN (ktn-uk.org)