Bil newydd y Gymraeg ac Addysg i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn colli cyfle i ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Bil y Gymraeg ac Addysg, gyda'r nod o roi cyfle teg i bob plentyn yng Nghymru siarad Cymraeg yn annibynnol ac yn hyderus beth bynnag fo'u cefndir neu eu haddysg.
Ar hyn o bryd, mae gallu disgyblion i siarad Cymraeg yn amrywio'n sylweddol yn dibynnu ar ba ysgol y maent yn ei mynychu. Bydd y Bil yn mynd ati i gau’r bwlch o ran gallu disgyblion yn y Gymraeg erbyn iddynt adael yr ysgol.
Mae'r Bil hefyd yn mynd ati i sicrhau bod addysg drochi Gymraeg ar gael ar draws Cymru.
Mae'r gefnogaeth i ysgolion yn cynnwys gweithio gyda’r sector i gynyddu nifer yr athrawon all weithio drwy gyfrwng y Gymraeg, datblygu sgiliau iaith y gweithlu presennol, a darparu deunyddiau dysgu Cymraeg.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Cyfle teg i bawb siarad Cymraeg | LLYW.CYMRU
Mae Helo Blod yn wasanaeth cyflym a chyfeillgar sydd yma i’ch cynghori ar sut i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn eich busnes. Ac mae’r cwbl am ddim! I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Croeso i Helo Blod | Helo Blod (gov.wales)