Mae’r ffordd o hysbysebu cyfleoedd i gyflenwi’r sector cyhoeddus yn y DU ar fin newydd.
O 23:00 ar 31 Rhagfyr 2020, bydd gwybodaeth yn cael ei chyhoeddi ar gyfleoedd am gontractau sector cyhoeddus yn y DU, ar y gwasanaeth Find a Tender (FTS) newydd:
- Mae FTS am ddim i’w ddefnyddio ac yn disodli swyddogaeth Tenders Electronic Daily, Cyfnodolyn Swyddogol yr UE (OJEU/TED) ar gyfer caffael yn y DU.
- Bydd FTS yn gweithio law yn llaw â phyrth caffael presennol fel Contracts Finder, MOD Defence Contracts Online, Public Contracts Scotland, GwerthwchiGymru ac eTendersNI y gellir eu defnyddio i gyrchu ystod eang o gyfleoedd i gyflenwi’r sector cyhoeddus.
- Bydd deiliaid cyfrif presennol Contracts Finder yn gallu defnyddio’r un manylion mewngofnodi ar Find a Tender. Gallwch gofrestru nawr fel eich bod yn barod ar gyfer ei lansiad ar 31 Rhagfyr.
Os hoffech fanteisio ar gyfleoedd contract gyda’r sector cyhoeddus yn yr UE, gallwch ddal ati i wneud hynny ar OJEU/TED.
Bydd gwybodaeth am gaffael a lansiwyd gan awdurdodau contractio’r DU cyn 23:00 ar 31 Rhagfyr 2020 ar gael ar OJEU/TED neu’r pyrth presennol a grybwyllir uchod.
Am ragor o ganllawiau ewch i wefan GOV.UK.
Anfonwch unrhyw ymholiadau at info@crowncommercial.gov.uk
Ewch i wefan GwerthwchiGymru am wybodaeth a chymorth ar sut i ennill contractau gyda’r sector cyhoeddus ledled Cymru.