Mae gan Innovate UK nifer eang o gyfleoedd cyllid sydd ar agor i fusnesau Cymru i arloesi a fuddsoddi mewn Ymchwil Datblygu ac Arloesi.
Gall y tîm Arloesi Llywodraeth Cymru eich helpu i gyrchi’r cyllid yma ac i helpu’ch busnes yn bellach: Digwyddiadur Busnes Cymru - CRISP24 - Cyfarfod Cymorth Ar-Lein (business-events.org.uk)
Partneriaethau trosglwyddo gwybodaeth (KTP): 2024 i 2025 rownd tri
Gall sefydliadau academaidd, sefydliadau ymchwil a thechnoleg neu ganolfannau Catapwlt sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £9 miliwn i ariannu prosiectau arloesi gyda busnesau neu sefydliadau nid-er-elw. Dyddiad cau: 25 Medi 2024. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais: Knowledge transfer partnerships (KTP): 2024 to 2025 round three – UKRI
NetworkPlus dyfodol y rhyngrwyd y DU: amlinelliad
Gwnewch gais am gyllid ar gyfer NetworkPlus dyfodol y rhyngrwyd y DU sy'n dod â'r gymuned ymchwil a rhanddeiliaid ynghyd. Mae'r cyfle ariannu hwn yn rhan o thema strategol Creu Cyfleoedd, Gwella Canlyniadau UKRI. Mae'n rhaid i chi fod wedi'ch lleoli mewn sefydliad ymchwil yn y DU sy'n gymwys i gael cyllid UKRI. Dyddiad cau: 10 Medi 2024. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais: UK future internet NetworkPlus: outline – UKRI
Seilwaith digidol: dulliau newydd o ymdrin â sgiliau neu feddalwedd
Gwnewch gais am gyllid i wella eich seilwaith ymchwil digidol (DRI) drwy dreialu dulliau o ymdrin â sgiliau neu feddalwedd, sef dwy o flaenoriaethau strategol Rhaglen DRI UKRI. Gall eich cais dargedu un o'r blaenoriaethau hyn. Mae'n rhaid i chi fod wedi'ch lleoli mewn sefydliad ymchwil yn y DU sy'n gymwys i gael cyllid UKRI. Dyddiad cau: 22 Awst 2024. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais: Digital infrastructure: new approaches to skills or software – UKRI
Ymchwil a datblygu cydweithredol Rhaglen Gwrthsefyll Trychinebau Eureka 2024
Gall sefydliadau sydd wedi'u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £1 miliwn i ddatblygu technolegau ym maes gwrthsefyll trychinebau, ac ymateb ac adfer wedi trychineb, mewn partneriaeth â sefydliadau o wledydd Eureka sy’n cymryd rhan. Dyddiad cau: 31 Hydref 2024. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais: Eureka Disaster Resilience Programme collaborative research and development 2024 – UKRI
Arddangos cadwyn gyflenwi BridgeAI
Gall sefydliadau sydd wedi'u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £2 filiwn o gyllid grant i gyflawni prosiectau arddangos deallusrwydd artiffisial (AI). Bwriad y prosiectau hyn yw sicrhau effeithlonrwydd cadwyni cyflenwi a chynyddu cynhyrchiant cwmnïau. Dyddiad cau: 21 Awst 2024. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais: BridgeAI supply chain demonstrator – UKRI