![Wind turbine](/sites/maingel2/files/styles/post_featured/public/images/Wind%20turbines%20off%20shore_0.png.webp?itok=5azZ3kKn)
Partneriaeth Twf Ynni Gwynt Alltraeth (OWGP) yw prif sefydliad y DU ar gyfer cyllid twf y gadwyn gyflenwi a chymorth busnes pwrpasol ar gyfer ynni gwynt alltraeth.
Mae OWGP yn cyfrannu at dargedau’r DU o ran cyrraedd sero net, sicrwydd ynni a thwf economaidd drwy gefnogi datblygiad y gadwyn gyflenwi ynni gwynt alltraeth, cynhyrchu gwybodaeth, gwerth economaidd, swyddi medrus iawn ac incwm allforio ar gyfer busnesau’r DU.
Mae OWGP yn cynnig dau fath o gyfleoedd ariannu a chymorth, Trawsnewid Busnes a Chyllid Grant. Cliciwch ar y ddolen ganlynol am ragor o wybodaeth: Funding Opportunities – Offshore Wind Growth Partnership (owgp.org.uk)